Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) | Childcare Funding (Wales) Bill

CCF 21

Ymateb gan: CLlLC & CCAC

Response from: WLGA & ADEW

 

CYFLWYNIAD

 

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r tri awdurdod parciau cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cysylltiol.  

 

2.        Mae’n ceisio cynrychioli awdurdodau lleol o fewn fframwaith polisi datblygol sy'n bodloni blaenoriaethau allweddol ein haelodau ac yn darparu ystod eang o wasanaethau sy'n ychwanegu gwerth at Lywodraeth Leol Cymru a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

 

Ymateb i Ymgynghoriad

 

3.        Mae CLlLC yn croesawu cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru). Mae hwn yn ymateb ar y cyd gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC).

 

4.        Pwrpas y Bil yw galluogi Llywodraeth Cymru (LlC) i ddarparu’r ymrwymiad a wnaed yn Maniffesto 2016 Llafur Cymru ‘Gyda’n Gilydd Dros Gymru’ i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i rieni plant 3 a 4 oed yng Nghymru am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

 

5.        Mae Llywodraeth Leol yn llwyr gydnabod bod mynediad at ofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar o safon dda yn chwarae rôl hanfodol yn natblygiad y plentyn ac mae’n gyfrannwr allweddol wrth drechu tlodi plant. Mae’r Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am ddarparu gofal plant fforddiadwy a phriodol a galluogi rhieni neu ofalwyr i weithio neu ymgymryd â hyfforddiant. Mae sawl awdurdod lleol yn darparu dros y 10 neu 12 awr statudol o Ddarpariaeth Cyfnod Sylfaen sy’n cael ei gynnwys yn y Cynnig Gofal Plant.

 

6.        Mae CLlLC a’r llywodraeth leol yn croesawu’r ffordd mae LlC wedi cydweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar i ddatblygu’r trefniadau ar gyfer gweithredu'r Cynnig Gofal Plant yng Nghymru. Mae CLlLC yn croesawu ymrwymiad parhaus LlC i ddysgu gwersi gan y gweithredwr cynnar a pharhau i gydweithio’n agos gyda’r Awdurdodau Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar a’r 15 Awdurdod Lleol arall wrth i’r rhaglen weithredu gynnar ei ehangu, tuag at gyflwyniad cenedlaethol yn 2020-21.

 

Egwyddorion Cyffredinol y Bil

 

7.        Yn wahanol i ddarpariaeth Meithrinfa Cyfnod Sylfaen, nid yw’r Cynnig Gofal Plant yn gynnig cyffredinol: i fod yn gymwys, mae’n rhaid bod rhieni’n byw mewn ardal beilot penodol a bodloni’r meini prawf incwm a nodir. Mae hyn yn golygu y dylid cael rhyw ffordd o wirio a chadarnhau cymhwysedd rhieni ar gyfer nawdd. Mae Awdurdodau Lleol Unigol sy’n Weithredwyr Cynnar wedi gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwneud hyn, a thra bo LlC wedi darparu nawdd i helpu bodloni'r costau dan y rhaglen

weithredu gynnar, mae’n faich gweinyddol sylweddol ar awdurdodau, gan ofyn iddynt wirio dogfennau hunaniaeth, prawf o enillion ac ati, sy’n cael eu cyflwyno gan rieni.  

 

8.        Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (AERh) yn nodi’r pedwar dewis a ystyriodd LlC ar gyfer y swyddogaeth derbyn ceisiadau a gwirio cymhwyster pan mae’r Cynnig Gofal Plant yn cael ei gyflwyno i’r 22 awdurdod lleol. Y dewis a ffefrir gan LlC yw Dewis 2, sef datblygu cais a swyddogaeth cymhwyster Cymraeg o fewn platfform gofal plant didreth Cyllid a Thollau ei Mawrhydi. Mae’r Bil yn darparu’r sail statudol angenrheidiol i symud hyn ymlaen, gan roi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu’r cyllid i blant rhieni sy’n gweithio ac sy’n gymwys, a llunio rheoliadau am y trefniadau ar gyfer dosbarthu a gweithredu'r fath gyllid. 

 

9.        Ar ôl edrych ar y pedwar dewis a ystyriodd LlC, mae CLlLC yn nodi manteision Dewis 2 fel y nodir yn y AERh, yn bennaf ei fod yn:

 

-          galluogi bod gwiriadau cymhwyster yn cael eu gwneud yn erbyn data amser real, gan ddarparu system a dull cyson ar draws Cymru;

-          darparu penderfyniadau cyflym i rieni ar eu cymhwyster;

-          lleihau’r risgiau ynghylch diogelwch data a thwyll, ac;

-          adeiladu ar brofiad Cyllid a Thollau ei Mawrhydi mewn dosbarthu gwiriadau cymhwyster tebyg ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn Lloegr.

 

10.     Mae CLlLC a’r llywodraeth leol yn croesawu Dewis 2 a’r ffaith y bydd yn diddymu baich gweinyddol derbyn a gwirio cymhwysedd gan awdurdodau lleol, a bydd yn cynnig proses ymgeisio sengl a chyson i rieni ar draws Cymru. Mae'r AERh yn nodi y bydd y system Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn hollol ddwyieithog ac yn bodloni Safonau'r Iaith Gymraeg. Bydd LlC hefyd yn gofyn i Chyllid a Thollau ei mawrhydi i gynnig llinell gymorth dwyieithog i gwsmeriaid. 

 

11.     Dan Ddewis 2, bydd awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am ddosbarthu eu systemau ar gyfer darpariaeth yr hawl i 10 awr o addysg y blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn golygu y bydd gofyn i rieni wneud cais ar wahân i’w awdurdod lleol ac i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi i gael mynediad llawn a chyfun o 30 awr o ddarpariaeth

Meithrinfa Cyfnod Sylfaen a gofal plant. Bydd yn hollbwysig bod y systemau ar wahân yn cydweithio’n llyfn i rieni.

 

Goblygiadau ariannol

 

12.     Nid yw CLlLC wedi gwneud dadansoddiad ei hun o’r costau tybiedig a nodir yn yr AERh am bob un o’r pedwar dewis a ystyriodd LlC ar gyfer y swyddogaeth cais a gwirio cymhwyster. Wrth adnabod manteision Dewis 2 a ffefrir gan LlC, mae CLlLC yn croesawu ymrwymiad LlC i fodloni costau rheolaidd a pharhaus darpariaeth Cyllid a Thollau ei Mawrhydi o’r swyddogaeth, yn amodol i basio’r Bil. Mae LlC wedi cyllidebu £80m rhwng 2017-18 a 2019-20 i fodloni costau’r Cynnig ei hun, hynny yw, taliadau i ddarparwyr. Mae Cyllid ar gyfer y cyflwyniad llawn yn 2020-21 tu allan i gylch cyllideb bresennol LlC, ac maent yn parhau i fodelu sut beth fyddai’r costau blynyddol. 

 

 

 

 

13.     Mae’r Bil fel drafft, yn Fil Fframwaith nad yw'n rhoi dyletswyddau statudol newydd i Weinidogion Cymru nac awdurdodau lleol. Mae pŵer yn Adran 7 ar gyfer Gweinidogion Cymru i lunio rheoliadau ac i 'roi pwerau neu osod rhwymedigaethau ar awdurdod lleol mewn perthynas â nawdd dan Adran 1’ a gall y fath reoliadau ‘ofyn i awdurdod lleol rhoi sylw i ganllawiau a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru dan y rheoliadau'. Bydd unrhyw reoliadau a wneir dan Adran 7 yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhaol yn y NAW. 

 

Priodoldeb y pwerau yn y Bil

 

14.     Nid yw CLlLC mewn safle i roi sylwadau ar briodoldeb y pwerau yn y Bil ar gyfer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth. Pan wneir deddfwriaeth sy'n effeithio ar lywodraeth leol, mae CLlLC yn gobeithio y byddai LlC yn ymgynghori gyda’r llywodraeth leol ar fanylion pan fo hynny’n briodol. Os yw’r fath ddeddfwriaeth yn gosod rhwymedigaethau newydd ar awdurdodau lleol, mae CLlLC yn gobeithio y byddai LlC yn sicrhau bod unrhyw oblygiadau ariannol wedi’u costio’n llawn ac wedi’u noddi’n briodol. 

 

15.     Ynghyd â’r Bil a’r rheoliadau, bydd LlC yn cyhoeddi cynllun gweinyddol hefyd, a fydd yn disgrifio sut a lle y gellir defnyddio gofal plant a pwy fydd yn gallu darparu’r gofal plant ar gyfer pwrpasau’r cynllun. Bydd y cynllun yn adeiladu ar y canllawiau anstatudol presennol ar gyfer Awdurdodau Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar, gan ystyried eu profiad o weithredu’r Cynnig Gofal Plant yn gynnar. 

 

Sylwadau eraill

 

16.     Mae CLlLC yn nodi y bydd LlC yn parhau i gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a rhanddeiliaid eraill dros y misoedd nesaf ar fanylion y trefniadau er mwyn gweithredu’r Bil a chyflwyno’r Cynnig Gofal Plant yn llawn. Byddai CLlLC yn nodi ar y pwynt hwn bod y problemau canlynol - sy’n bwysig i awdurdodau lleol, rhieni a darparwyr- heb gael eu penderfynu eto, ac nid yw’n glir os byddent yn cael eu hystyried yn y rheoliadau na’r cynllun gweinyddol:

 

-      sut a phryd y bydd awdurdodau lleol yn cael gwybod pa rieni sydd wedi cael cyllid gan Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ar gyfer gofal plant. Dan y prosesau a nodir yn AERh, bydd rhieni cymwys yn cael cod i gyflwyno i’w darparwr gofal plant. Fodd bynnag, bydd angen y wybodaeth hon ar awdurdodau ar gyfer pwrpas cynllunio a rheoli darpariaeth gofal plant a chwblhau eu Hasesiadau Digonolrwydd Gofal Plant;

 

-      pwy fydd yn talu darparwyr? Fel uchod, bydd angen i awdurdodau lleol wybod pa ddarparwyr sy’n derbyn taliadau am leoedd gofal plant dan y Cynnig fel eu bod yn gallu nodi patrymau yn y meysydd datblygu, yn unol â'u rhwymedigaethau statudol dan ofynion yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, a; 

 

-      fel y nodir uchod, sicrhau bod systemau awdurdodau lleol i rhieni allu gwneud cais am ddarpariaeth meithrinfa Cyfnod Sylfaen a system gwneud cais ar gyfer nawdd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn cydweithio’n llyfn.

  

17.     Yn fwy cyffredinol. Mae’n bwysig pwysleisio, os yw’r Bil yn cael ei basio, bydd awdurdodau lleol yn parhau i chwarae rôl bwysig yn llwyddiant y Cynnig Gofal Plant yn nhermau hyrwyddo, datblygu gofal plant a gwybodaeth leol. Mae angen sicrhau nad yw swyddogaeth Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn niweidiol i’r berthynas mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn ei chael gyda rhieni sy’n chwilio am ofal plant yn eu hawdurdod, os ydynt yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ai peidio neu am gymorth dan gynlluniau eraill megis Dechrau'n Deg neu Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), a gyda darparwyr gofal plant lleol. Gall y gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd gefnogi rhieni nad ydynt yn gymwys, i edrych ar ddewisiadau gofal plant amgen ac/neu eu rhoi ar y trywydd cywir i wasanaethau eraill i’w helpu i gael mynediad i hyfforddiant neu gyfleoedd cyflogaeth a fyddai’n gallu eu gwneud yn gymwys am y Cynnig Gofal Plant. Dylai rhieni sy’n gwneud cais am nawdd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi barhau i gael mynediad i wasanaethau gwybodaeth i deuluoedd, am gymorth a chefnogaeth gyda'r broses cais os oes angen.

 

Casgliad

 

18. Mae CLlLC yn nodi bod Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yn Fil technegol yn bennaf i alluogi i LlC ddarparu ei ddewis a ffefrir fel bod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ymgymryd â’r swyddogaeth o dderbyn ceisiadau a gwirio cymhwyster rhieni ar gyfer y Cynnig Gofal Plant. Mae Llywodraeth Leol yn nodi’r manteision y byddai’r Bil yn ei gynnig yn nhermau gweinyddu’r cynnig, i’r awdurdodau a’r rhieni. Mae’r Llywodraeth Leol yn edrych ymlaen at barhau i chwarae ei rôl yn narpariaeth gofal plant i deuluoedd yng Nghymru ac i barhau i weithio mewn partneriaeth gyda LlC a

rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y Cynnig Gofal Plant yn cael ei gyflwyno’n llyfn yn genedlaethol yn 2020-21.